Print

Cerddwyr Dyffryn Clwyd

Dewch i fwynhau cefn gwlad gyda'ch Grwp Cerddwyr lleol.

Ymunwch a'r grwp cyfeillgar a llawen hwn ar deithiau cerdded drwy dirlun prydferth Dyffryn Clwyd - cewch chwilio eich  cefn gwlad lleol sy'n gyfoeth o ddiwylliant a hanes. Ar hyn o bryd mae 230 o aelodau ac maent yn rhan o'r Gymdeithas Cerddwyr, yr unig elusen genedlaethol sy'n gweithio i gerddwyr.

Mae'r theithiau cerdded wedi'u graddio fel bod pobl o bob gallu cymryd rhan, felly beth am ddod draw i wella eich ffitrwydd, eich iechyd a'ch lles cymdeithasol? Mae'r theithiau cerdded yn amrywio o deithiau cerdded hanner diwrnod byrion i ddiwrnodau llawn sy'n cynnwys teithiau gyda choets. Mae'r rhain yn cynnig amrywiaeth eang o deithiau cerdded drwy Ogledd Cymru gyfan gan gynnwys gwyliau cerdded ym Mhrydain ac Ewrop.

Mae digwyddiadau cymdeithasol yn rhan o'r rhaglen sydd fel arfer yn golygu ymweld a thafarn neu gaffi ar ol neu yn ystod y teithiau cerdded.

Mae teithiau cerdded yn rhad ac am ddim ac mae croeso arbennig i aelodau newydd ac ymwelwyr i'r ardal. Os ydych yn newydd i gerdded, peidwch a phoeni, gallent roi cymorth a chyngor i chi i'ch helpu i gychwyn.

Dim ots a ydych yn ddechreuwr neu'n gerddwr profiadol mae Cerddwyr Dyffryn Clwyd yn cynnig rhaglen blwyddyn gron, ac mae manylion hon ar ein gwefan: www.voc-ramblers.org.uk

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch a Malcolm os gwelwych yn dda ar 01745 888137 neu e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Print

Footloose

Mae'r Fenter Cerdded at Iechyd wedi'i hariannu ar y cyd gan Grwp Iechyd Sir Dbinbych. Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Mae'n rhan o gynllun cenedlaethol i annog pobl Prydain i gerdded i gadw'n iach, sef cynllun sydd wedi'i greu a'i ariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon a'r Asiantaeth Cefn Gwlad.

Bwriad y fenter yma yw gwella iechyd corfforol cerddwyr, ond mae hefyd yn cydnabod bod mantais i iechyd y meddwl hefyd o fynd i gerdded yn rhan o grwp. Felly, y disgwyl yw y bydd y teithiau cerdded lleol gydag arweinydd yn helpu pobl i gymdeithasu drwy greu awyrgylch gyfeillgar a bydd arweinwyr hyfforddedig y teithiau cerdded yn gwneud gwaith sylfaenol bwysig o ran annog y cerddwyr.

Cysylltwch a Katrina - Y Cydlynydd Cerdded at Iechyd ar 01745 356197

Neu ebostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Print

You'll Never Walk Alone

Prestatyn and Meliden's 'Walking.bmpYou'll never walk alone' Walking for Health Initiative has been in existence for just over six years and has attracted a total attendance of just over 11,000 participants.

This FREE initiative is open to everyone, with walks to suit all ages and abilities led by trained volunteer Walk Leaders, where you can start slowly and build up gently.  There is a front and back leader to guide walkers, encouraging them to walk at their own pace.  There are lots of opportunities to chat, take in the scenery, discover more about you local area and make new friends with over 87% of people joining the walks to enjoy the social element that the scheme can offer.

Print

Yr Wyl Gerdded

Mae Gwyl Gerdded Flynyddol Prestatyn a'r Fro'n trefnu tri diwrnod o gyfleoedd gwych i ymchwilio golygfeydd unigryw'r bryniau a'r traethau sydd gan Brestatyn i'w cynnig.

Mae'r wyl newydd gwblhau ei thrydedd flwyddyn ac mae wedi cynnig 21 o deithiau cerdded eleni. Caiff y teithiau eu harwain gan dywysydd profiadol sydd yno'n wirfoddol i wneud yn siwr bod y cerddwyr yn dilyn y llwybrau cywir phob cerddwr yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain.

Roedd chwilio am Farchogion y Demi, bedd y Brenin Arthur a thrysor Capten Morgan yn rhai o uchelbwyntiau'r wyl yn 2007.

I weld rhaglen 2008, edrychwch ar y dudalen ddigwyddiadau. Rhaid cofrestru ar y teithiau cerdded i gyd o flaen llaw lle bo modd. Mae'r lle'n gyfyngedig felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi siomiant.

Print

Grwp Llwybr Clawdd Offa

Sefydlwyd Grwp Llwybr Clawdd Offa yn 2006 yn dilyn camau cyntaf yr aelod seneddol Chris Ruane. Pasiodd yntau awenau'r grwp i'r gymuned ac maent wedi ethol eu cadeirydd eu hunain, sef Rod Bowden. Mae Rod yn byw'n lleol ar y Bryniau gerllaw'r llwybr ac mae'n gerddwr brwd ac yn gefnogwr mawr i'r llwybr.

Mae ganddynt ysgrifenyddes, Sherry Edwards, sydd hefyd yn byw'n lleol.

Mae grwp rheoli bychan wedi'i sefydlu i lunio eu cyfansoddiad. Mae'r grwp wedi cytuno ar eu hamcanion erbyn hyn, sef.

Datblygu addysg y cyhoedd am Lwybr Clawdd Offa, ei hanes, sut mae'n berthnasol i Glawdd Offa.

Hysbysu pobl fanteision economaidd y llwybr.

Darparu a hwyluso cyfleoedd busnes yn ymwneud a'r llwybr.

Ceisio a chwilio am ffyrdd o sicrhau 'gwerth ychwanegol' wrth ddatblygu'r llwybr.

Mae'r grwp wedi'i ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol lleol eraill yn arbennig grwp yr Wyl Gerdded.

 

More Articles...