Nofio Am Ddim
Mae Cyngor Tref Prestatyn yn cynnig Cynllun Nofio am Ddim i holl drigolion Prestatyn a Gallt Melyd neu ddisgyblion dan 16 oed sy’n mynychu Ysgolion Prestatyn a Gallt Melyd. Mae’r cynllun yn gweithredu drwy bob gwyliau ysgol (heblaw’r Nadolig) a chaiff y tocynnau eu darparu’n ddyddiol. Gallwch lenwi ffurflenni cofrestru yn Swyddfeydd Cyngor Tref Prestatyn, Ffordd Llys Nant, Prestatyn ac mae’n rhaid i Riant neu Warcheidwad eu harwyddo. Rydym yn darparu tocynnau’n ddyddiol ar ddiwrnod y nofio yn unig. Dim ond yng Nghanolfan y Nofa, Prestatyn y cewch ddefnyddio’r tocynnau.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Gyngor Tref Prestatyn os gwelwch yn dda ar 01745 857185



