Print

Rhannu Gardd

Oes gennych chi le yn eich gardd nad ydych yn ei ddefnyddio neu sy'n anodd i chi ofalu amdano?

Allech chi ddefnyddio eich gardd i dyfu bwyd pe bai mwy o amswer gennych?

NEU

Ydych chi eisiau tyfu bwyd eich hun ond does gennych chi ddim tir i'w ddefnyddio?

Os felly, efallai y gallwn eich helpu drwy eich cysylltu a thyfwr neu ddarn addas o dir.

Sut mae hyn yn gweithio?

Bydd y cydlynydd yn cyfarfod perchennog y tir a'r tyfwr i ofyn beth maen nhw ei angen e.e. maint y plot/plotiau sydd ganddynt, ai un tyfwr sydd neu deulu cyfan, lleoliad y safle ac ati.

Bydd gwahoddiad i'r ddwy ochr gyfarfod cyn i unrhyw un wneud penderfyniad ac mae'r tyfwr yn cael gwahoddiad i weld y plot.

Bydd angen i'r tyfwr dalu swm bach blynyddol am yswiriant atebolrwydd cyhoeddus rhag ofn y bydd damweiniau wrth iddynt weithio ar dir rhywun arall.

Does dim disgwyl i dyfwyr ofalu am weddill yr ardd ond dylent ei drin gyda pharch.

Fel tyfwr, bydd disgwyl i chi roi canran penodol o'ch cynnyrch i berchennog yr ardd. Ni fyddwch chi a nhw'n cyfnewid arian.

Dylai'r tyfwyr fod yn frwdfrydig iawn ynglyn a thyfu bwyd.

Efallai y bydd rhaid aros dipyn go lew cyn i blotiau addas gael eu cyfateb gyda phobl addas.

Y manteision i berchennog yr ardd:

Cyfran o'r cynnyrch cartref, ffres, sydd ar stepen y drws!

Bydd yr ardd wedi'i chadw'n daclus

Cwmniaeth

Y manteision i'r garddwr:

Hobi newydd neu ail gychwyn hen hobi

Y balchder sy'n gysylltiedig a chynhyrchu bwyd ffres wedi'i dynnu'n syth o'r ardd

Ymarfer corff yn yr awyr agored

 

Os hoffech wybod rhagor neu os hoffech gofrestru eich gardd neu ddwend bod gennych ddiddordeb mewn tyfu cynnyrch, cysylltwch a Sue Edwards yng Nghyngor Tref Prestatyn: 01745 857185